Astudiaeth Feirniadol o Ddefnydd y Gymraeg ar y Cyfryngau Cymdeithasol Chwaraeon
Yn 2017 gosododd llywodraeth Cynulliad Cymru darged o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r strategaeth yn amlinellu pwysigrwydd normaleiddio’r iaith i’w defnyddio ym mhob rhan o’r gymdeithas ac nid yn y maes addysg yn unig (LLYW.CYMRU, 2017). Pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd y byd digidol (rhagair y gweinidogion). Nod y prosiect hwn yw canolbwyntio ar y byd digidol a defnydd o’r iaith yn gymdeithasol. Gwneir hyn drwy ddarganfod dylanwad sydd gan y cyfryngau cymdeithasol chwaraeon (CCCh) i hybu mwy o bobl i siarad Cymraeg. Er bod peth ymchwil i ddylanwad chwaraeon â’r iaith Gymraeg (e.e. Evans, 2019) a phwysigrwydd bod iaith leiafrifol yn weladwy ar y CC (e.e. Cunliffe, 2007), nid oes ymchwil sy’n cysylltu’r Gymraeg, chwaraeon a’r CC. Dechreuwyd y traethawd gyda chyflwyniad i gysyniadau a theorïau sosioieithyddol a hunaniaeth genedlaethol sy’n hollbwysig i ddeall y maes a darparu sylfeini ar gyfer datblygu cynllun ymchwil yr astudiaeth. Er mwyn cael trosolwg llawn o’r maes ategir y mewnwelediadau damcaniaethol hyn gan dystiolaeth empirig trwy dair astudiaeth ddilynol. Mae Astudiaeth A yn ffocysu ar unigolion ar Twitter sydd wedi ymateb yn bositif i drydariad gan endid chwaraeon. Mae Astudiaeth B yn cwestiynu sefydliadau chwaraeon am eu defnydd Cymraeg ar y CC. Diben Astudiaeth C ydy holi aelodau ‘llywodraethol’ ynglŷn â’r sefyllfa bresennol a'u cyfranogiad yn y dyfodol. Darganfuwyd fod trydariadau gan endidau chwaraeon yn cael effaith bositif ar y Cymry, maent yn cynyddu ei teimlad o berthyn i’r wlad ac yn ffordd effeithiol o normaleiddio’r iaith. Mae rhai sefydliadau yn gwneud swydd dda o ddefnyddio’r Gymraeg ar y CC, fodd bynnag, mae llawer o le i wella gan nifer o sefydliadau. Mae gan sefydliadau chwaraeon gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR) i wneud hyn. Er hyn, mae prinder adnoddau yn rhwystro llawer o sefydliadau yn ogystal ag ansicrwydd ieithyddol. Mae nifer o gyrff llywodraethol all chwarae ei rhan wrth hybu sefydliadau chwaraeon i ddefnyddio’r Gymraeg, mae angen perthynas a phartneriaeth gliriach rhwng y cyrff yma i sicrhau fod sefydliadau chwaraeon yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Funding
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
History
School
- School of Sport and Health Sciences
Qualification level
- Doctoral
Qualification name
- PhD