Ymgymryd ag Ymholiadau Proffesiyonal
‘Ymholi Proffesiynol’?
Mae hanes hir i annog athrawon i ymgymryd ag ymchwil ac ymholi. Hyrwyddwyd hyn yn gyntaf yn y 1970au gan Lawrence Stenhouse a wnaeth ddadlau pan fyddai athrawon yn ymgysylltu a datblygiad cwricwla, roedden nhw mewn gwirionedd yn ymchwilio i’w hymarfer nhw eu hunain
(Stenhouse,1975). Dros amser defnyddiwyd ystod o labeli i ddisgrifio ymchwil ac ymholi athrawon gan gynnwys
‘ymarfer adfyfyriol’ (Schon, 1983), ‘ymchwil gweithredol’ (Elliot, 1991), ‘ymchwil ymarferwyr’ (Zeichner a Noffke, 2001), ‘ymholi cydweithredol’ (Bray, 2000), ‘ymholi beirniadol’ (Aaron et al, 2006), ‘ymchwil athrawon’ (Cochran-Smith a Lytle, 1993 a 1999; MacLean a Mohr, 1999) ac
‘ymholi cydweithredol beirniadol’ ( Drew, Priestley a Michael, 2016). Daeth y dull a fabwysiadwyd gan Marilyn Cochran-Smith yn ddylanwadol iawn. Mae’n dadlau y dylai athrawon ddatblygu ‘inquiry as stance’: mewn geiriau eraill dylai hyn ddod yn rhan hanfodol o’u hymarfer proffesiynol a fydd yn eu galluogi i fod ag ‘asiantaeth’ o fewn y system addysg. Mae’n ystyried bod hyn:
‘’… nid yw’n ddancaniaeth gweithredu o’r brig-i-lawr nac o’r gwaelod-i-fyny ond yn un organig a democrataidd a fydd yn gosod gwybodaeth ymarferwyr, ymarferwyr a’u hyngweithiadau gyda myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill yng nghanol trawsnewid addysgol’’ (Cochran-Smith a Lytle,
2009:123-124).
O dan y gwahanol ffurfiau hyn, mae’r hyn rydym wedi penderfynu ei alw yn ‘ymholi proffesiynol’ yng Nghymru wedi dod yn elfen sefydledig o ymarfer proffesiynol ac o astudio addysg o fewn Prifysgolion yn y DU (Furlong, 2013).