Cardiff Metropolitan University
Browse

Rhwydwaith Arloesi’r Economi Sylfaenol Gwerthusiad Anibynnol Mehefin 2024

Download (1.19 MB)
online resource
posted on 2025-07-03, 14:14 authored by Danny Saunders

Roedd Rhwydwaith Arloesi’r Economi Sylfaenol (FEIN) yn brosiect peilot cydweithredol 12 mis gyda’r nod cyffredinol o wella dealltwriaeth busnesau a sefydliadau trydydd sector o egwyddorion economi gylchol ac economi sylfaenol ac i ddatblygu eu galluoedd arloesi. Fe wnaeth y rhaglen ymgysylltu â 34 o sefydliadau, o bob rhan o dde Cymru, a chafodd ei harwain gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar y cyd â Phrifysgol Abertawe. Cafodd y gwerthusiad ei arwain gan y Fframwaith Asesu Effaith AdvanceHE ar gyfer addysg uwch, gan dynnu ar ystod eang o dystiolaeth gan gynnwys adborth o arolygon interim ac ymadael, tystiolaethau gan dystion, cyfweliadau, cyhoeddiadau, astudiaethau achos, cysgodi gweithdai, ac adroddiadau prosiect. Mae'r cyfranogwyr yn amlwg yn fodlon â'r hyn a gyflawnwyd drwy gydol y prosiect, a lwyddodd i gyrraedd y sector drwy ymgysylltu â mentrau cymdeithasol, elusennau, sefydliadau cymunedol a busnesau. Mae sefydliadau sy'n cymryd rhan wedi archwilio newidiadau i weithdrefnau, systemau a strwythurau sy'n gysylltiedig â lleihau gwastraff, ailgylchu, caffael, rheoli'r gadwyn gyflenwi, gweithio mewn partneriaethau, a chynhyrchu cynaliadwy. Wrth wneud hynny, maent wedi sefydlu cymuned ymarfer gyda chynlluniau arloesi a fyddai'n elwa o gefnogaeth barhaus FEIN.

History

Usage metrics

    Circular Economic Innovation Communities (CEIC)

    Exports

    RefWorks
    BibTeX
    Ref. manager
    Endnote
    DataCite
    NLM
    DC