Myfyrwyr sy’n pontio i’r brifysgol yng Nghymru yn ystod COVID-19
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau astudiaeth dulliau cymysg a oedd yn archwilio pa mor barod oedd myfyrwyr Addysg israddedig blwyddyn gyntaf yng Nghymru ar gyfer pontio i’r brifysgol yn ystod pandemig COVID-19.
Mae’r ddogfen wedi’i hanelu at y rhai sydd â diddordeb mewn darllen am ymchwil addysg sy’n archwilio profiadau a safbwyntiau israddedigion blwyddyn gyntaf am eu cyfnod pontio i’r brifysgol. Cynulleidfa debygol yr adroddiad yw’r rhai sy’n llunio polisïau addysg; timau arwain ysgolion, colegau a phrifysgolion a staff sy’n ymwneud â datblygu rhaglenni; ac ymchwilwyr addysg.
Mae cyfres seminarau ac adroddiadau’r Rhwydwaith Tystiolaeth Gydweithredol (CEN) ac yn manylu ar ganfyddiadau deunaw prosiect ymchwil cydweithredol sy'n cynnwys SABau a sefydliadau eraill. Mae'r adroddiadau'n edrych ar effeithiau'r pandemig COVID-19 ar wahanol agweddau ar y system addysg ac ar grwpiau penodol o ddysgwyr. Maent hefyd yn archwilio ffyrdd o liniaru'r effeithiau hynny, yn ogystal â ffyrdd y gall ymarferwyr a dysgwyr gael eu cefnogi'n well wrth symud ymlaen.