Gwella Galluoedd Economi Gylchol Ymarferwyr: Dadansoddiad o Ymyriadau yng Nghymru
Mae bywyd ar y blaned hon yn wynebu bygythiad oherwydd effeithiau newid yn yr hinsawdd a achoswyd gan bobl. Drwy bontio’n ddi-oed i Economi Gylchol (EG), lliniarir effeithiau ar fywydau pobl sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd. Mae’r ymchwil hon, a arweiniwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a’i hariannu gan Rwydwaith Arloesi Cymru, yn dadansoddi ymyriadau (rhaglenni, cyrsiau, gweithdai, rhwydweithiau, Cymunedau Ymarfer, etc.) sydd ar gael i ymarferwyr yng Nghymru ac yn awgrymu pa rai sydd fwyaf effeithiol wrth ddatblygu galluoedd ymarferwyr i weithredu EG. Rydym yn canolbwyntio ar addysgeg yr ymyriadau a nodwyd ac yn disgrifio sut mae sefydliadau wedi cyflawni egwyddorion EG yn llwyddiannus.
Pwrpas yr adroddiad hwn yw hysbysu ymarferwyr, gweithwyr academaidd a llunwyr polisi am y dulliau addysgegol cyfoes ac effeithiol sydd ar gael i wella galluoedd ymarferwyr i weithredu’r economi gylchol.
Yn yr adroddiad hwn, datblygwyd strategaeth glir ar sail trafodaethau ag arbenigwyr ar gyfer ymchwilio a datblygu naratif beirniadol a myfyriol ar y prosiect. Cynhaliwyd adolygiad llenyddiaeth er mwyn disgrifio’r llenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth lwyd bresennol am y dulliau addysgegol o weithredu’r economi gylchol. Ystyriwyd y bylchau a nodwyd yn yr adolygiad llenyddiaeth a’r trafodaethau ag arbenigwyr wrth lunio’r arolwg EG a’r cyfweliadau lled-strwythuredig.
Drwy adolygu’r ymyriadau presennol, gwelsom fod rhaglenni rhyngsefydliadol seiliedig ar her ar gyfer cydgynhyrchu dulliau EG a datblygu ecosystemau EG rhanbarthol yn rhai mwy effeithiol na rhaglenni traddodiadol a’u bod yn cyflymu’r pontio i economi gylchol; a hefyd mai egwyddorion dysgu seiliedig ar ddamcaniaethau dysgu cymdeithasol-ddiwylliannol sydd fwyaf priodol ar gyfer dysgu yn y gweithle.
Mae’r canfyddiadau ar sail data ansoddol yn dangos bod lefel yr ymwybyddiaeth o egwyddorion EG yn isel ymysg sefydliadau o bob maint ac ym mhob sector. Mae lleiafrif o sefydliadau wedi ymgorffori egwyddorion EG yn eu dogfennau strategaeth ac mae nifer bach iawn wedi mabwysiadu dangosyddion perfformiad allweddol cysylltiedig ag EG. Nid yw’r rhan fwyaf o sefydliadau wedi mabwysiadu cynllun cyflawni EG manwl.
Dangoswyd y themâu cyffredin yn y canfyddiadau o’n cyfweliadau lled-strwythuredig ag ymarferwyr sy’n darparu cynhyrchion/gwasanaethau EG neu sydd wedi cyflwyno egwyddorion EG yn llwyddiannus yn eu sefydliadau. Sefydlwyd mwyafrif y darparwyr cynhyrchion/gwasanaethau EG gan unigolion sy’n gweithredu ar sail gwerthoedd sy’n teimlo’n gryf ynghylch cyfrannu at bontio i EG ac sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu hardal a’u rhanbarth. Mae’r pwrpas cymdeithasol clir hwn yn hyrwyddo diwylliant yn y gweithle sy’n sbarduno ffyrdd arloesol o feddwl a gweithredu. Ym mhob achos, roedd y diwylliant gweithle creadigol hwn wedi’i hwyluso gan arddull ‘arwain ar y cyd’ a oedd yn sbarduno dysgu drwy ddull ‘ymchwilydd mewnol’. Roedd yr arddull arwain yn ddynamig a strategol; roedd yn manteisio ar bŵer cymdeithasol, nid pŵer personol, i ymgysylltu â gweithwyr a oedd yn aml yn profi ymdeimlad cryf o ymrymuso ac ymgysylltu personol. Roedd yr arweinwyr hefyd yn tueddu i sbarduno ymgysylltu drwy rwydweithiau mewnol ac allanol er mwyn cael a rhannu gwybodaeth.
Mae’r adroddiad hwn yn argymell bod angen cynnal rhagor o ymchwil i edrych ar y prif brosesau dysgu a dulliau addysgegol a fydd yn meithrin sgiliau mewn ymarferwyr i ddatblygu dulliau gwasanaeth newydd. Dylid datblygu ymyriadau teilwredig ar gyfer yr economi gylchol yn seiliedig ar faint y sefydliad a’r sector y mae’n gweithredu ynddo. Yn ogystal â hyn, dylai llunwyr polisi roi blaenoriaeth i fentrau amrywiol i hybu ymwybyddiaeth o’r EG ac i ymyriadau datblygu EG er mwyn cyflymu’r pontio i economi gylchol.